Roedd cwsmeriaid yn sgramblo i brynu wyau a chynnyrch lleol pan ddaeth y pandemig Coronafeirws i’r Deyrnas Unedig.
Cynyddodd y galw wrth i bobl brynu mewn panig ac roedd mwy o bobl yn pobi gartref, a dyna pryd y gwelodd David Sharples gynnydd sylweddol mewn cwsmeriaid eisiau nwyddau o Fferm Clyttir, ger Rhuthun.
Mae 24,000 o ieir maes ar y fferm, yn dodwy mwy na 150,000 o wyau’r wythnos, ac mae’n darparu dewis o jam, mêl ac olew had rêp hefyd.
Adeiladodd gysgodfa i sicrhau fod pobl yn medru cadw pellter cymdeithasol wrth ymweld â’r storfa wyau yn ystod misoedd y Gwanwyn a’r Haf, ac eto pan gafodd Cymru ail gyfnod clo byr yn ddiweddar.
Mae David yn cyfaddef ei fod ef ac eraill yn ei ddiwydiant wedi bod yn lwcus i fedru “dal i fynd” tra bo eraill wedi eu rhoi ar ffyrlo neu’n wynebu perygl colli eu swydd oherwydd y pwysau economaidd a achoswyd gan y pandemig.
“Rydym i’n ffodus iawn ein bod ni wedi dal i fynd, a thra ein bod ni wedi gweld gwerthu mwy o wyau yma yn y fferm, nid yw’r feirws wedi cael effaith mawr ar ein bywyd gwaith,” meddai.
“Mae gen i gymaint o gydymdeimlad gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a staff rheng flaen a’r llu o bobl eraill sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino trwy hyn y cyn. Rydw i’n eu hedmygu’n fawr.
“I ni fel ffermwyr rydym ni wedi dal ati i raddau; roedd y ffyrdd yn llawer tawelach i ddechrau wrth i bobl hunan ynysu ond gan ein bod ni y tu allan am fwyafrif y diwrnod roedd pethau bron yr un fath ag arfer i ni – rydym ni’n medru cadw pellter cymdeithasol yn ein tractorau!”
Mae’r teulu Sharples yn danfon wyau a jam i’r henoed a’r rhai bregus yn eu cymuned, a byddant yn parhau i wneud hynny’n y dyfodol, fel y mae llawer o’r busnesau sy’n gweithio gyda Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru i annog siopwyr i gefnogi busnesau lleol.
Mae llawer o’r cwsmeriaid newydd a ddaeth atyn nhw yn ystod y cyfnod clo cyntaf wedi aros gyda nhw, a sylwodd ar ymateb mwy digynnwrf pan gyflwynwyd y cyfyngiadau diweddaraf.
“Dydyn ni ddim wedi cael yr un fath o banig gyda’r cyfnod clo diweddaraf, efallai oherwydd ein bod ni’n ardal mwy gwledig ac roedd gan bobl fwy o syniad beth i’w ddisgwyl,” meddai David.
“Rydym ni’n cyflenwi cigyddion yn Rhuthun a Dinbych, a siopau cymunedol yn lleol, ac mae ganddyn nhw lif cyson o gwsmeriaid o hyd, ond dydi pobl ddim yn ciwio i lawr y stryd – bu llai o brynu mewn panig y tro hwn.”
Ychwanegodd: “Mae’n anodd gwybod sut y bydd pethau’n mynd dros y chwe mis nesaf, does gennym ni ddim syniad mewn gwirionedd gan nad ydym ni wedi bod yn y sefyllfa yma o’r blaen.
“Y cwbl y medrwn ni ei wneud ydi gweithio gyda’n gilydd a gobeithio y bydd y bobl sy’n rheoli yn medru ein llywio trwy hyn mor gyflym a diogel ag y bo’n bosibl.”
Mae’r ail ddigwyddiad blynyddol Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru/Taste North East Wales yn cael ei gynnal yn rhithiol eleni wedi i’r trefnwyr, Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Bwyd a Diod Dyffryn Dyfrdwy, gyda chefnogaeth Cadwyn Clwyd, Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, benderfynu cynnal dathliad ar-lein i sicrhau iechyd a diogelwch y cyfranogwyr.
Derbyniodd y prosiect hwn gyllid gan Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Os hoffech gael gwybod mwy am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol @taste_blasu neu anfon neges e-bost i taste.blas@gmail.com. Mae croeso i chi edrych ar y wefan hefyd: www.tastenortheastwales.org.
Ewch i www.facebook.com/deevalleyproduceltd neu anfon neges e-bost i deevalleyproduce@gmail.com os hoffech gael gwybod rhagor am Dee Valley Produce.