Gwyliau
Yn ogystal â’n rhaglen o brofiadau unigryw yn gysylltiedig â bwyd, mae rhaglen yr Hydref Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnwys gwyliau bwyd sefydledig y rhanbarthau. Bydd y digwyddiadau yma i gyd yn ddiwrnodau gwych i’r teulu cyfan…
GŴYL FWYD WRECSAM – WEDI'I GANSLO
Ar ôl cael llond eich bol o fwyd a diod, gallwch fwynhau’r adloniant anhygoel fydd ar gael. Bydd sialensiau cysylltiedig â bwyd i’w gweld ar y rhestr adloniant, a gall ymwelwyr gymryd rhan mewn sialensiau megis ‘Her y chilli’! http://www.wrexhamfoodfestival.wales/
GŴYL FWYD A DIOD YR WYDDGRUG - WEDI'I GANSLO
Yn ei 14eg flwyddyn erbyn hyn, mae’r ŵyl yn cyflwyno penwythnos llawn dop gydag arddangosiadau gan gogyddion enwog a rhai newydd. Bydd pawb yn falch o groesawu theatr goginio’r plant yn nôl, lle mae’r rhai bach yn cael cyfle i fynd i’r afael â’r pin rholio a chreu eu seigiau eu hunain.
Bydd yna gyfuniad o gerddoriaeth amrywiol drwy’r dydd, gyda rhywbeth at ddant pawb, a bydd y dorf yn gwirioni ar gampau’r cogyddion yn cerdded ar stilts, sef dim ond un enghraifft o’r adloniant a’r gweithgareddau ychwanegol, rhyfeddol a ddaw i ddiddanu mynychwyr yr ŵyl. Yn arwain y theatr goginio bydd yr actor o Coronation Street a gwneuthurwr caws arobryn, Sean Wilson. Bydd rhestr o gogyddion talentog yn ymuno ag o, gan gynnwys rhai wynebau lleol adnabyddus a’r prif gogydd llysieuol, Eddie Shepherd. Bydd plant yn cael dod i’r ŵyl am ddim eleni os byddwch yn archebu tocynnau ar lein cyn dydd Gwener, Medi 20.
Ar gyfer y newyddion diweddaraf am yr ŵyl, ewch i:
- www.moldfoodfestival.co.uk
- Facebook: @moldfoodfestival
- Twitter: @moldfoodfest
Instagram: mold_food_drink_festival
GŴYL FWYD Llangollen - 17-18 HYDREF 2020
Cewch yma bopeth y byddwch ei angen ei wybod ynghylch ddigwyddiad eleni https://youtu.be/nE9wRvJgLGY
EIRIN DINBYCH - WEDI'I GANSLO
Digwyddiad blynyddol i ddathlu’r eirin, gydag amrywiaeth o fwyd a diod yn cynnwys y ffrwythau lleol, yw Gŵyl Eirin Dinbych.
Mae’r ŵyl yn para trwy’r dydd; bydd dewis gwych o seigiau ar gael, o fochyn wedi’i rostio gyda saws eirin, i siocledi eirin moethus, a bydd yna amrywiaeth eang o stondinau i’w gweld.
AFAL Erddig
Trwy gydol y mis, bydd yna lwybr dan do ac yn yr awyr agored, arddangosfa o seidr a pherai Cymreig, a sgyrsiau a theithiau yn seiliedig ar afalau. https://www.nationaltrust.org.uk/erddig/features/squeezing-more-juice-from-erddigs-harvest
Comments are closed.