Cynhaliwyd Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru’n rhithiol eleni, yn cynnwys cyfres o deithiau rhyngweithiol, sesiynau blasu ar-lein ac ymgyrch fideo a chyfryngau cymdeithasol dwyieithog lwyddiannus yn tynnu sylw at y cynnyrch lleol gorau. Gwnaeth gwylwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig – yn cynnwys Bryster, Swydd Hertford a Sir Benfro – ymuno yn y dathliadau, yn amrywio o’r nosweithiau boblogaidd blasu
Er gwaethaf heriau’r pandemig Coronafeirws, gweithiodd Beatriz Albo a’i thîm yn Sabor de Amor yn Wrecsam yn galed i gefnogi cynhyrchwyr a chymunedau lleol trwy gyflenwi cyflenwad cyson o’u sawsiau a’u salsas sydd wedi ennill llu o wobrau. Lansiodd Beatriz, a enillodd raglen ‘Top of the Shops’ BBC2 ddwy flynedd yn ôl, y busnes yn 2015 gan ddefnyddio ryseitiau teuluol
Ac mae Wayne Siddall, perchennog Dee Valley Produce yn Llangollen, yn gobeithio y bydd mwy o gwsmeriaid yn parhau’n ffyddlon i’w busnesau lleol a gamodd ymlaen i gefnogi eu cymunedau yn ystod y pandemig Coronafeirws. Gyda chefnogaeth Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru – sy’n cael ei gynnal ar-lein yr hydref hwn oherwydd Covid-19 – mae defnyddwyr yn cael eu hannog i
Mae gwestai, llety gwely a brecwast, caffis, tafarndai a bwytai’r rhanbarth wedi wynebu amser echrydus ers dechrau’r pandemig COVID-19. Ailagorodd llawer gyda mesurau diogelwch a chadw pellter cymdeithasol llym yn eu lle, tra bo eraill wedi arallgyfeirio i sicrhau eu bod yn goroesi ac yn ffynnu wrth ddynesu at 2021. Yn eu plith mae bar a bwyty’r Three Eagles yn
Cynyddodd y galw wrth i bobl brynu mewn panig ac roedd mwy o bobl yn pobi gartref, a dyna pryd y gwelodd David Sharples gynnydd sylweddol mewn cwsmeriaid eisiau nwyddau o Fferm Clyttir, ger Rhuthun. Mae 24,000 o ieir maes ar y fferm, yn dodwy mwy na 150,000 o wyau’r wythnos, ac mae’n darparu dewis o jam, mêl ac olew
Wrth i ni wynebu tywydd oer a nosweithiau tywyll – a chyfyngiadau diogelwch llymach – mae’r tîm yn Siop Gymunedol Cilcain yn gobeithio y bydd trigolion yn parhau i gefnogi’r fenter. Esboniodd y trysorydd, Sarah Parr, sut y gwnaeth pawb – o ddisgyblion ysgol i bensiynwyr – ddod at ei gilydd i weini cwsmeriaid, paratoi danfoniadau a chymryd archebion gan
Bydd Blas Gogledd Ddwyrain Cymru’n cael ei gynnal ar-lein eleni oherwydd y pandemig Coronafeirws, gyda’r cyfnod clo lleol yn atgyfnerthu doethineb y penderfyniad i gynnal gweithdai, sesiynau blasu a theithiau tywysedig trwy gyfrwng Zoom, y platfform fideo gynadledda. Bydd cyfranogwyr yn derbyn cynhyrchion ymlaen llaw ar gyfer rhai o’r digwyddiadau, fel eu bod yn medru mwynhau cynnyrch gwych busnesau lleol,
Yn eu plith mae Canolfan Grefftau Afonwen a’i fwyty poblogaidd, Edenshine, wedi’i leoli ger Caerwys yn Sir y Fflint. Gorfodwyd y perchnogion Janet Monshin Dallolio ac Adrian Dallolio i gau’r atyniad ym mis Mawrth am y tro cyntaf mewn mwy na 28 o flynyddoedd mewn busnes. Roedd yn gyfnod heriol, ond gwnaeth y pâr – y ddau ohonyn nhw’n gogyddion/pobwyr
Gwnaeth hynny yn ei dro hybu cefnogi lleoliadau a chyrchfannau lleol sy’n cyfuno bwyd a diod gyda manteision yr awyr agored. Mae Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru’n cael ei gynnal yn rhithiol eleni oherwydd pandemig COVID-19 ond mae cadw pellter cymdeithasol yn llai o broblem i’r busnesau hynny sy’n elwa o harddwch eu hamgylchedd. Un o’r rhain yw One Planet Adventure,
Gorfodwyd Katharine Wilding, sylfaenydd a chyfarwyddwr Angel Feathers wedi’i leoli ym Moel Famau, Sir Ddinbych, i ailfeddwl am ei strategaeth busnes pan ddaeth cyfyngiadau COVID-19 ledled y wlad ym mis Mawrth. Hyd at hynny roedd hi wedi cyflenwi tafarndai, bwytai a siopau lleol, ond pan wnaethon nhw gau gwnaeth y gwerthiannau leihau dros nos. Gwnaeth Katharine gais am drwydded ar-lein